Gyda gwahanol weithgareddau ar gael yma yn y parc, mae gennym ddigon i’w gynnig i unrhyw grŵp sy'n chwilio am ddiwrnod difyr a chystadleuol o antur! O bartïon pen-blwydd, partïon plu neu stag, gweithgareddau adeiladu tîm, teithiau ysgol neu griw o ffrindiau sydd eisiau mwynhau diwrnod gyda'i gilydd yng Ngogledd Cymru. Rydym yn teilwra pob digwyddiad i'ch gofynion unigryw trwy drefnu ymlaen llaw.
Mae lle i hyd at 30 o bobl yn ein Hystafell Gynhadledd ac mae ganddi daflunydd a sgrin tynnu i lawr ar gyfer cyflwyniadau. Cymerir archebion ar gyfer y bore, y prynhawn a gyda’r nos, neu ar gyfer diwrnod cyfan, ac mae'n cynnwys te a choffi. Gallwn hefyd ddarparu ar gyfer unrhyw brydau bwyd y gallech eu hangen. Mae ein caffi yn gweini ystod wych o brydau bwyd wedi'u paratoi’n ffres am gyn lleied â £6.00 y pen. Os oes gennych grŵp mwy, bydd lle i hyd at 80 o bobl yn yr Ystafell Fwyta newydd.
I archebu neu i gael rhagor o wybodaeth, peidiwch oedi yn cysylltu â ni dros e-bost info@glasfryn.co.uk neu ffoniwch 01766 810 000.
Ein gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar gyfer grwpiau o oedolion:
- Bowlio Deg (hyd at 56 o bobl ar unrhyw adeg)
- Grand Prix (lleiafswm o 16 person)
- Saethu Colomennod Clai (lleiafswm o 10 person)
Ein gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar gyfer grwpiau o blant:
- Bowlio Deg (hyd at 56 o blant ar unrhyw adeg)
- Saethyddiaeth (hyd at 10 o blant ar unrhyw adeg)