Saethyddiaeth
Cartref > Gweithgareddau Awyr Agored > Saethyddiaeth
Mwy am y gweithgaredd
Mae Parc Glasfryn yn cynnig profiad saethyddiaeth gwefreiddiol yn yr awyr agored, a hynny yng nghanol cefn gwlad godidog Cymru, gan roi’r cyfle i unigolion o bob gallu brofi sut siâp sydd ar eu saethu a’u hanelu mewn lleoliad prydferth a pherffaith. Llwyth o hwyl i’r teulu cyfan – ai chi yw’r Robin Hood nesaf?
Mae gennym ni fwaon o wahanol feintiau sy’n addas ar gyfer plant ac oedolion ac mae ein targedau yn amrywio o ran lefel sgiliau - perffaith i bawb p’un a ydych chi’n hen law neu’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf.
Lleiafswm oedran: 6+
Hyd pob sesiwn: 30 munud
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £10
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Ymwadiad – Os yn bosibl, archebwch le cyn cyrraedd. Os nad ydych wedi archebu ymlaen llaw, ffoniwch ni ar y diwrnod i weld a oes lle ar gael. Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich sesiwn.