Chwarae Meddal
Cartref > Gweithgareddau Dan Do > Chwarae Meddal
Hwyl a Sbri!
Mae Prif Ganolfan Weithgareddau Gogledd Cymru yn gartref i le chwarae meddal ac ystafell barti gwych, sy’n llawn hwyl ac antur. Os ydych chi’n chwilio am le i ddiddanu eich plant ifanc, ein canolfan chwarae meddal yw’r lle i chi. Lle gwych i blant o bob oedran fwynhau.
Mae lle chwarae meddal, pyllau peli, pethau i’w dringo a chropian oddi tanynt, drostynt ac o’u cwmpas yn ffordd wych i ddiddanu plant bach.
Gallwch fanteisio ar sawl gwahanol ardal fwyta ac mae digon o gadeiriau uchel ar gael trwy’r drws sy’n cysylltu â’r Ystafell Fwyta gyferbyn, fel y gallwch fwynhau bwyd gwych a gwybod bod y plant yn ddiogel.
Mae oedolion – p’un a ydynt yn rhiant, nain, taid, modryb, ewythr neu ofalwr – yn gyfrifol am oruchwylio eu plant ar bob adeg.
Archebwch NawrAr agor 10am - 4pm gan ddibynnu ar argaeledd
£5 y plentyn
Oes terfyn oedran?
Mae’r Ganolfan Chwarae Meddal ar gael ar gyfer plant 10 oed ac iau
A oes rhywun yn goruchwylio’r Ganolfan Chwarae Meddal?
Nid oes unrhyw un yn goruchwylio’r Ganolfan Chwarae Meddal. Mae’n rhaid i rieni aros gyda’u plant ar bob adeg.
Partïon Plant
Mae gennym ni ystafell barti ar wahân dros ffordd i’r ardal chwarae meddal hefyd sydd wedi’i haddurno'n arbennig ar gyfer partïon plant - lleoliad gwych ar gyfer parti pen-blwydd eich teulu neu blant. Ewch i’n tudalen Partïon Plant i gael rhagor o wybodaeth!