Bowlio Deg

Cartref > Gweithgareddau Dan Do > Bowlio Deg

Bowlio Deg Gogledd Cymru

Dewch i fwynhau gêm o Fowlio Deg ym Mhrif Ganolfan Weithgareddau Gogledd Cymru – y gweithgaredd perffaith i bob oedran…boed law neu hindda!

Mae ein lonydd bowlio yn gwbl gyfrifiadurol ac mae bympars a rampiau ar gyfer y plant ifanc a’r rheiny sydd ag anableddau, fel y gall pawb gymryd rhan. Rydych chi hefyd yn gallu hurio esgidiau o bob maint. Mae gennym ddewis eang o beli bowlio gyda phwysau yn amrywio o 6 o 16 pwys, sy’n golygu bod pob chwaraewr yn gallu dewis y bêl gywir.

Rhaid i gwsmeriaid ddod i’r Dderbynfa Bowlio tua 10 munud cyn eich amser bowlio, er mwyn i staff allu mewngofnodi eich enwau (neu ffugenwau!) ar y sgrin ac i chi gael eich esgidiau. Fel canllaw, mae un gêm ar gyfer chwe pherson yn para tua awr.

Fe’ch cynghorir i archebu lôn fowlio cyn cyrraedd.

Archebwch Nawr

Ar agor bob dydd 9.30am - 6pm

Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich amser bowlio

£8 y person am y gêm gyntaf

£7 y person am yr ail gêm

Parti Bowlio £12.50 y plentyn

 

Pa mor hir mae gêm yn para?

Rydym ni’n argymell caniatáu 10 munud y person. Byddai gêm arferol yn para tua awr gyda 6 pherson yn chwarae.

A ddylwn i wisgo sanau?

Mae angen gwisgo sanau gydag esgidiau bowlio. Rydym ni’n gwerthu parau o sanau dros dro am £1.00.

Faint o bobl allwch chi eu ffitio mewn un lôn?

Dim mwy na chwe pherson ym mhob lôn. Os oes gennych chi grŵp mwy, gallwch rannu rhwng lonau wrth ymyl ei gilydd.

Oes gennych chi fympars?

Mae bympars ar gael. Mae’r rhain ar gyfer plant 10 oed ac iau. Os oes angen bympars arnoch chi ar eich lôn, rydym yn argymell eich bod yn gofyn am rain wrth archebu gyda ni.

Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich amser bowlio