Gwibgertio Hŷn
Cartref > Gweithgareddau Awyr Agored > Gwibgertio Hŷn
Mwy am y gweithgaredd
Croeso i Gylchffordd Gwibgertio Hŷn Parc Glasfryn, y lle perffaith ar gyfer raswyr hŷn! Mae ein trac hŷn a’n trac dwbl wedi’u dylunio i sicrhau cymaint o hwyl a chyffro â phosib, gan gynnwys troeon, troadau a llwybrau anhygoel a fydd yn cadw pawb ar flaen eu seddi. Mae ein trac yn cynnig profiad penigamp i raswyr o bob gallu.
P’un a ydynt yn llywio troadau tynn neu’n gwibio lawr y llwybrau syth, mae pob lap yn antur ym Mharc Glasfryn.
Lleiafswm oedran: 14+
Hyd pob sesiwn: 10 munud
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £15
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich sesiwn. Mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod dros 14 oed. Ni allwch wisgo sandalau ar y gwibgerti. Ni allwch gymryd rhan os ydych chi wedi anafu ar hyn o bryd, os ydych chi wedi cael cyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol i beidio â chymryd rhan neu os ydych yn feichiog. Peidiwch ag yfed alcohol na chymryd cyffuriau cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae ‘boosters’ ar gael i’r rheiny nad ydynt ddigon tal. Os nad ydym yn meddwl ei fod yn ddiogel i chi yrru gwibgart hŷn, bydd rhaid i chi yrru’r gwibgerti iau.