Gwibgertio Iau

Cartref > Gweithgareddau Awyr Agored > Gwibgertio Iau

Mwy am y gweithgaredd

Croeso i Gylchffordd Gwibgertio Iau Parc Glasfryn, y lle perffaith ar gyfer raswyr iau! Mae ein trac iau a’n trac dwbl wedi’u dylunio i sicrhau cymaint o hwyl a chyffro â phosib, gan gynnwys troeon, troadau a llwybrau anhygoel a fydd yn cadw gyrwyr ifanc ar flaen eu seddi. Mae ein trac yn cynnig profiad penigamp i raswyr o bob gallu.

P’un a ydynt yn llywio troadau tynn neu’n gwibio lawr y llwybrau syth, mae pob lap yn antur ym Mharc Glasfryn.

Oedran: 8-13 mlwydd oed

Hyd pob sesiwn: 10 munud

Archebwch Nawr

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Pris o £15

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

Gwybodaeth ychwanegol

Cofiwch gyrraedd 15 munud cyn eich sesiwn. Ni allwch wisgo sandalau ar y gwibgerti. Ni allwch gymryd rhan os ydych chi wedi anafu ar hyn o bryd, os ydych chi wedi cael cyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol i beidio â chymryd rhan neu os ydych yn feichiog. Peidiwch ag yfed alcohol na chymryd cyffuriau cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae ‘boosters’ ar gael i’r rheiny nad ydynt ddigon tal. Os nad ydym yn meddwl ei fod yn ddiogel i blentyn yrru gwibgart ar ei ben ei hun, byddant yn cael mynd mewn gwibgart dwbl gydag oedolyn 18+.