Crash a Sblash
Cartref > Chwaraeon dwr > Crash a Sblash
Mwy am y gweithgaredd
Plymiwch i fyd o hwyl ym Mharc Dŵr Glasfryn, lle gallwch oresgyn heriau llawn hwyl, concro sleidiau enfawr, a mwynhau anturiaethau sblasio diddiwedd yng nghanol harddwch cefn gwlad Cymru. Y gweithgaredd perffaith i deuluoedd ar ddiwrnod hir a bythgofiadwy o’r haf. Beth am weithio fel tîm i drechu’r heriau gyda’ch gilydd, neu i achub eich gilydd o’r dŵr? Cyfle i brofi eich cydbwysedd a’ch cryfder, a cheisiwch beidio â chael yn wlyb (er mai hynny yw hanner yr hwyl i fod yn onest)
Lleiafswm oedran: 6+ gydag oedolyn
Hyd pob sesiwn: 50 minutes
Archebwch NawrGwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Pris o £22.50
Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...
Gwybodaeth ychwanegol
Nid oes unrhyw ystafelloedd newid na chawodydd ar gael. Rhaid i unrhyw un o dan 12 sy’n cymryd rhan fod yng nghwmni oedolyn sy’n cymryd rhan (dros 18 oed). Os yn bosibl, archebwch le cyn cyrraedd. Os nad ydych wedi archebu ymlaen llaw, ffoniwch ni ar y diwrnod i weld a oes lle ar gael.
Cofiwch gyrraedd 30 munud cyn eich sesiwn. Yn anffodus ni allwch gymryd rhan os ydych chi wedi anafu yn ddiweddar. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan fod yn gallu nofio yn hyderus.